Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5670
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.29
Dechreuodd yr eitem am 14.52
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.
Dechreuodd yr eitem am 15.20
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM7105 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM7107 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:
a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a
b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.13
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2019